Carafanau

Mae ein maes carafanau teithiol tymhorol yn cynnwys lleiniau llawr caled, gyda thir gwastad a mynediad hawdd. Mae pwyntiau cysylltu trydan ar bob llain ac mae pwyntiau cysylltu dŵr ar gael.

Rydym yn safle sy’n croesawu cŵn (ar gyfer cŵn a pherchnogion sy’n ymddwyn yn dda) ac rydym yn hapus i'n gwesteion gael tanau neu farbeciws ar y safle ond eu bod oddi ar y ddaear. 

Mae'r cyfleusterau modern ar y safle yn cynnwys bloc toiledau glân sy'n cael ei wirio'n rheolaidd, digon o gawodydd poeth a mannau golchi llestri, a chyfleusterau golchi dillad. Mae plant wrth eu bodd yn chwarae ar y siglenni yn y coed.

Mae'r safle wedi ei leoli o fewn tir ein fferm deuluol. Rydym yn falch o fod wedi ein lleoli o fewn Biosffer Dyfi UNESCO – yr unig un yng Nghymru gyfan – sy’n ardal sy’n cael ei chydnabod am ei harddwch naturiol, ysbryd cymunedol cryf, fflora a bywyd gwyllt amrywiol, a pheth o’r dŵr glanaf, yr awyr dywyllaf a’r boblogaeth isaf yn Ewrop. Yn sicr mae digon i'w weld a'i wneud ar eich gwyliau – edrychwch ar yr hyn sydd yn yr ardal leol wych hon .

Cyfleusterau ar y safle

– Cyfleusterau i’r anabl
- Cawodydd poeth
- Bloc toiledau
- Ystafell ymolchi rhieni a babanod
- Man golchi llestri
- Peiriant golchi
– Trafnidiaeth gyhoeddus wrth y fynedfa
- Caniateir barbeciw oddi ar y ddaear
- Caniateir cŵn

Cae tymhorol: (1 Mawrth - 31 Tachwedd) £1,190

Mae defnydd trydan yn cael ei nodi ar eich mesurydd eich hun, i'w dalu ar ddiwedd y tymor.

Ymholiadau