Ein Stori
Mae'r teulu Rowlands/Breese wedi bod yn croesawu gwesteion i'r fferm ers 1964 pan benderfynodd Gwyn a Glenys, nain a thaid John, brynu Cefn Crib. Roedd y safle ychydig yn wahanol bryd hynny gyda charafanau teithiol bach ar y lleiniau sefydlog, ond dros y blynyddoedd mae'r safle wedi tyfu. Mae rhai o’r teuluoedd gwreiddiol dal yma ac wrth eu bodd yn treulio amser yng Nghefn Crib.
John a minnau sy'n rheoli'r Parc Carafanau sy'n cynnwys 42 o garafanau statig a 18 o garafanau teithiol .
Yn 2014 fe wnaethon ni sefydlu ein safle glampio ar y fferm. Bellach mae gennym ni 2 babell gloch glampio moethus , 2 babell saffari, cwt bugail a chaban. Mae gennym ni hefyd ein bwthyn bach ar gael i westeion ers mis Medi 2024. Mae'n fater teuluol, gyda ni'r ddau a'n plant, Megan, Ieuan a Gwenllian, i gyd yn helpu.
Mae Cefn Crib yn rhan o fenter ffermio 1,000 erw y mae John yn ei ffermio ochr yn ochr â’i frawd Arwyn a’u tad, Ron.
Mae John yn trefnu'r holl swyddi ar ein llety glampio ac ar y parc carafanau ac rwy'n gofalu am yr holl waith gweinyddu, marchnata a newid yr unedau llety amrywiol, a byddaf yn bwynt cyswllt i chi o'r archeb gychwynnol hyd at eich croesawu i'r safle wrth gyrraedd.
Rwy’n meddwl y byddai Taid John yn falch o bopeth rydym wedi’i gyflawni, ac rydym yn ffodus iawn i fod yn warchodwyr y lle anhygoel hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!


